Fel eglwys, ein gweledigaeth ydy ‘cysylltu ein cymunedau i Grist drwy gariad Duw’. Mynnegir hyn mewn darlun yr ydym yn credu inni ei dderbyn gan Dduw yn 2016 – llun calon efo croes yn y canol, gyda phobl o bob oedran a chefndir yn cerdded tuag ato ac oddi wrtho.
Mae Duw wedi ein harwain ni i fod yn bobl sy’n ymuno a’n gilydd fel teulu drosodd a throsodd, yn treulio amser yn annog a chefnogi ein gilydd a dod at Iesu i gael ein hatgyfnerthu, adnewyddu a’n paratoi. Oddi yma yr awn allan I rannu’r hyn yr ydym wedi ei dderbyn ag eraill.