Pwy ydym ni

Mae Eglwys Bedyddwyr Tywyn yn eglwys fywiog s’yn swatio rhwng y mynyddoedd a’r môr yng nghanol Tywyn, yng nghanolbarth Cymru. Rydym yn deulu sawl cenhedlaeth o gredinwyr, sy’ wedi ymrwymo i Grist, i’n gilydd ac i wasanaeth Duw yn ein cymuned leol ac yn y byd ehangach.

Rydym yn Eglwys Fedyddol annibynnol, yn gysylltiedig  â ac yn atebol i Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr a Chymdeithas Gogledd-Orllewin y Bedyddwyr. Mae eglwysi Bedyddol yn ran o’r Eglwys Gristnogol byd-eang ac i’w cael yn bron bob un gwlad o gwmpas y byd.

Yn nheulu’r EBT mae pawb yn gydradd, gan fod gan pawb ran i’w chwarae mewn gwasanaethu Duw. Rydym yn penodi ein harweinwyr ein hunain gyda chyfrifoldeb arbennig am bregethu, dysgu a gwaith bugeiliol. Goruwchwylir y gwaith ymarferol o fewn yr eglwys gan arweinyddion Tîm, sy’n helpu trefnu tasgau megis rheolaeth ariannol, cynnal a chadw, sain a fideo. Annogir pawb sy’n rhan o deulu Eglwys Tywyn i gymeryd rhan. Rydym wrth ein bodd ag ymwelwyr a gobeithio pan fyddwch yn ymweld â’r eglwys y byddwch yn ein  yn groaelesawus a chyfeillgar.

Does gynnym ni ddim cefnogaeth ariannol heblaw’r hyn â roddir gan aelodau, y pobl sy’n mynychu ac ymwelwyr. Rydym yn delio gyda materion busnes mewn cyfarfodydd eglwys, lle rydym yn trin a thrafod materion yn ymwneud â rheolaeth effeithiol yr eglwys.

Darganfyddwch fwy ynglŷn â’r hyn rydym yn ei gredu, ein gweledigaeth a dewch gyfarfod y tîm.