Yn EBT rydym yn credu mewn awdurdod y Beibl mewn bywyd personol ac eglwysig. Fel corff o gredinwyr, rydym yn ceisio byw a gweithredu mewn ffyrdd sy’n gyson â ddysgeidiaeth beiblaidd.
Mae llawer o deulu’r EBT wedi gwneud cyhoeddiad o ymrwymiad i’r eglwys drwy ddod yn aelodau o’r eglwys. Mae’r rheini sy’n dod yn aelodau yn cydnabod Iesu Grist fel eu Gwaredwr ac Arglwydd, yn cytuno â datganiad sylfaenol o ffydd (megis y Gred Apostolaidd) ac yn cytuno i gadw at yr egwyddorion ag amlinnellir yn nghyfansoddiad yr eglwys.
Fe ddylai aelodau’r eglwys hefyd fod yn hapus gyda’r ymarferion sy’n ein nodweddu fel Eglwys Bedyddwyr, yn cynnwys ‘bedydd y credinwr’ sydd yn fedydd drwy ymdrochi’n llwyr i’r rheni o ba bynnag oed sydd wedi dod at ffydd ac ymddiried llwyr yn Iesu Grist. Nid ydy cytuno â’r credoau yma yn eich gwneud yn Fedyddiwr, ond mae’n golygu eich bod yn debygol o deimlo’n gyffyrddus a mwynhau cwmniaeth o fewn yr eglwys yma. Fel eglwys, yr ydym hefyd yn ymrwymo i gynnal Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr sef ‘Cyhoeddiad Egwyddorion’.
Darllenwch am ein gweledigaeth a dewch i gwrdd â’r tîm.